Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2017 - 2021

1.0     Diben a chrynodeb

1.1     Mae'r papur hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’w ystyried.  Mae hefyd yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar y Cynllun newydd a’r adroddiad blynyddol a fydd yn cau’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol ac a fydd yn parhau ar waith hyd nes y caiff y Cynllun newydd ei gymeradwyo gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.

2.0     Argymhellion

2.1     Gofynnir i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar y canlynol:

·         fersiwn ddrafft ein Cynllun Ieithoedd Swyddogol (Atodiad A) yn dilyn ymgynghoriad mewnol ac allanol ac a gytunwyd gan Gomisiwn y Cynulliad;

·         yr adroddiad blynyddol drafft (Atodiad B) cyn ei osod i'w ystyried mewn Cyfarfod Llawn i gau'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol.

3.0     Cefndir Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

3.1     Cafodd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (Cymru) ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cynulliad ar 3 Hydref 2012.   Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch y defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wrth gyflawni swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad.  Prif amcan y Ddeddf yw ei gwneud yn ddyletswydd statudol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i drin y Gymraeg a'r Saesneg fel ein hieithoedd swyddogol ac yn gyfartal.

3.2     Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol sy'n nodi'r mesurau y bydd yn eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'i ddyletswyddau fel yr amlinellir yn y Ddeddf. Ymhlith pethau eraill, rhaid i'r Cynllun gynnwys darpariaeth ynghylch:

·           cyfieithu ar y pryd;

·           cyhoeddi dogfennau yn y ddwy iaith swyddogol, yn amodol ar unrhyw eithriadau a nodir yn y Cynllun;

·           ymgysylltu â'r cyhoedd o ran trafodion y Cynulliad, a swyddogaethau eraill y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad;

·           mesurau ymarferol i feithrin a gwella'n barhaus yr hawl i ddewis pa iaith swyddogol i'w defnyddio;

·           pennu targedau ac amserlenni ar gyfer gweithredu’r Cynllun; 

·           dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu’r Cynllun;

·           dulliau gwrthrychol o fesur cynnydd wrth weithredu'r Cynllun;

·           strategaeth ar gyfer sicrhau bod gan staff y Cynulliad, ar y cyd, y sgiliau iaith sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r Cynllun; a

·           darpariaeth sy'n ymwneud â chasglu, ymchwilio ac ystyried cwynion o fethiannau i roi darpariaethau'r Cynllun ar waith.

3.3     Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad hefyd, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, osod gerbron y Cynulliad adroddiad yn nodi sut y mae'r Comisiwn wedi rhoi'r Cynllun ar waith, h.y. a gafodd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn y Cynllun eu darparu ac i ba raddau, ac os yw'n berthnasol, y rhesymau pam nad yw'r Comisiwn wedi darparu unrhyw un o'r gwasanaethau hyn. Mae’r Adroddiad Blynyddol terfynol ar gyfer y Cynllun presennol wedi’i atodi yn Atodiad B. Gofynnir i’r Pwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad. Caiff yr adroddiad ei fformadu i gynnwys lluniau a delweddau er mwyn dangos rhai o’n llwyddiannau.

 

4.0     Ymgynghoriad

4.1     Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Cynllun drafft ym mis Tachwedd 2016, ac mae sylwadau'r ymgyngoreion wedi helpu i lunio'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiwn y Cynulliad ac sydd gerbron y Pwyllgor.  Drwy gydol yr ymgynghoriad roedd y Cynllun drafft ar gael ar wefan y Cynulliad, ac fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, buom yn ymgynghori yn benodol â'r canlynol:

·         Aelodau'r Cynulliad drwy e-bost a sesiynau galw heibio.

·         Bwrdd Rheoli'r Cynulliad, Ochr yr Undebau Llafur, ein Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle, hysbysiad ar fewnrwyd y staff, sesiynau galw heibio a thrwy system raeadru drwy ein cydgysylltwyr Cynllun Iaith Swyddogol, i staff ym mhob maes gwasanaeth.

·         grwpiau sydd â diddordeb - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Dyfodol yr Iaith.

4.2     Ceir crynodeb o'r ymatebion isod.

Yn gyffredinol, mae'r ymatebion allanol i'r ymgynghoriad wedi bod yn gefnogol, gan gydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhannu rhai pryderon nad yw'r Cynllun yn mynd yn ddigon pell a gwnaeth awgrymiadau penodol ar dargedau y dylid eu pennu ar gyfer gweinyddiaeth fewnol a chynyddu lefel y siaradwyr Cymraeg rhugl yn y sefydliad.

Mae'r ymatebion o'r ymgynghoriad mewnol hefyd wedi bod yn gefnogol ar y cyfan. Mae'r system Cyfeillion Cyswllt wedi cael ei groesawu i raddau helaeth gan yr Aelodau a'u staff fel cam ymlaen i wella'r gwasanaethau i'r Aelodau.

Ymhlith staff y Comisiwn, roedd cymysgedd o safbwyntiau. Teimla rhai fod y Cynllun drafft yn gam ymlaen sy'n adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn y Cynllun cyntaf, ac roedd eraill yn teimlo nad oedd y Cynllun yn mynd yn ddigon pell. Y prif bryder i staff yw cyflwyno lefelau sgiliau iaith ar gyfer pob swydd newydd ac, yn benodol, gosod lefel cwrteisi ieithyddol sylfaenol fel isafswm ar gyfer pob swydd. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y sylwadau a gafwyd, er bod aelodau eraill o staff yn teimlo bod y bar wedi'i osod yn rhy isel.

Ochr yn ochr â'r Cynllun, rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw'r cynnig i gyflwyno gofyniad sydd o leiaf yn cynnig cwrteisi ieithyddol sylfaenol mewn hysbysebion swyddi yn peryglu ceisiadau am swyddi gan bobl o gefndiroedd amrywiol.  Mae hyn wedi nodi nifer o gamau a fydd yn gwella ein tudalennau recriwtio ac yn dangos ein bod yn gyflogwr sy'n amrywiol o ran natur ac sy'n croesawu ymgeiswyr o bob un o'n cymunedau.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gwneud rhai addasiadau i rannau amrywiol o'r Cynllun drafft, mae'r fersiwn a gytunwyd gan y Comisiwn, ac sydd bellach gerbron y Pwyllgor, yn cynrychioli cam ymlaen o ran darparu gwasanaeth a dull cytbwys er mwyn mynd â ni tuag at gyflawni ein huchelgais. 

5.0     Trafodaeth

5.1     Mae'r Cynllun drafft newydd yn adeiladu ar ddiwylliant dwyieithog y Cynulliad ers ei sefydlu ym 1999.  Mae cynlluniau olynol wedi nodi'r safonau yr ydym yn atebol iddynt.  Symudodd datblygiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf 2012 a'i Chynllun â ni ymhellach ymlaen o ran darparu gwasanaeth dwyieithog a thrin y ddwy iaith yn gyfartal.  Gwnaethom hefyd gyflwyno'r egwyddor o alluogi Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth a'r cyhoedd i weithio neu i ymgysylltu â ni yn eu hiaith swyddogol o ddewis. Mae'r datblygiadau hynny, a'r newidiadau diwylliannol sydd wedi dod i'r amlwg, yn ein rhoi mewn sefyllfa hyd yn oed yn gryfach o gymharu â llawer o gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Ymhlith yr uchafbwyntiau mae'r canlynol:

·                gweithredu model byd-eang Cymru ar gyfer Microsoft Translator sydd wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ein Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi ac wedi galluogi defnyddwyr di-Gymraeg i gael bras gyfieithiad o ohebiaeth Gymraeg yn unig er mwyn sicrhau ymateb cyflymach i ohebiaeth;

·                caiff dogfennau briffio pwrpasol, sy'n adlewyrchu dewisiadau iaith unigol yr Aelodau, a geirfaoedd termau technegol Cymraeg ar gyfer Biliau ac ymchwiliadau eu darparu erbyn hyn i’r holl bwyllgorau, sy'n galluogi'r Aelodau i weithio'n haws yn yr iaith o'u dewis;

·                strategaeth sgiliau dwyieithog sydd wedi galluogi staff y Comisiwn i wella'r broses o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau dwyieithog yn seiliedig ar asesiad o lefelau sgiliau presennol, gwaith cynllunio iaith gwell i sicrhau bod gallu dwyieithog ar y lefel gywir ac yn y lle iawn. Yn ogystal â hyn rydym wedi datblygu Tîm Sgiliau Iaith mewnol sy'n darparu ystod lawn o gymorth i ddechreuwyr ac unigolion sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd am fagu mwy o hyder neu wella eu gramadeg a'u Cymraeg ysgrifenedig;

·                drwy adeiladu ar ein henw da rhyngwladol fel sefydliad seneddol dwyieithog a'n gwaith gyda Microsoft Translator a'i argaeledd yn fyd-eang, rydym yn darparu nifer o gyflwyniadau i gynadleddau a sefydliadau ar y ffordd y mae technoleg wedi trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio yn ddwyieithog a'n hymagwedd tuag at ddysgu Cymraeg;

·                mae datblygu a chyflwyno cortynnau gwddf i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wedi arwain at newid mewn ethos drwy annog Cymraeg i gael ei siarad a'i defnyddio yn naturiol ac yn rhagweithiol ar ystâd y Cynulliad ac o'i chwmpas;

·                mae argaeledd ein polisïau Adnoddau Dynol a system ar-lein yn Gymraeg, yn ogystal â chynyddu gallu dwyieithog o fewn y tîm Adnoddau Dynol yn sicrhau bod rheoli perfformiad, cwynion, recriwtio, disgyblu a swyddogaethau eraill Adnoddau Dynol yn cael eu cynnig a'u hwyluso yn y naill iaith yn rhagweithiol; ac

·                mae targedau, blaenoriaethau a gwelliannau gweithredol eraill a nodir yn y Cynllun ar gyfer 2013-2016 bellach wedi cael eu cynnwys yn ein safonau gwasanaeth ar gyfer y Cynllun newydd.  Byddwn yn parhau i fod yn atebol am y rhain yn y cylch adrodd blynyddol drwy ystyriaeth yn y Cyfarfod Llawn.

6.0     Themâu a thargedau ar gyfer y Cynllun newydd

6.1     Caiff y Cynllun drafft ei strwythuro mewn ffordd debyg i'r Cynllun presennol gan ei fod yn nodi grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth yn hawdd a'r safonau y gallant eu disgwyl gennym ni:

a)        Ein huchelgais

b)        Ein safonau gwasanaeth

-       ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff

-       ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru

-       ar gyfer ein staff

c)         Themâu ar gyfer cyfnod y Cynllun

d)        Y trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd

6.2     Gan adeiladu ar y llwyfan yr ydym wedi'i datblygu a'n llwyddiannau o dan y Cynllun presennol, yn ogystal â datblygiad pellach ein diwylliant o weithio'n ddwyieithog, credwn fod mwy i'w wneud o hyd er mwyn ein galluogi i gyflawni ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2021.  Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi mireinio ein datganiad uchelgais i nodi ein dyheadau i wella ein gwasanaethau dwyieithog yn ogystal ag annog, hwyluso a brodori gweithio'n ddwyieithog mewn modd rhagweithiol.  Felly, cynigir yr uchelgais ganlynol fel y gyrrwr strategol ar gyfer y Cynllun drafft tan 2021:

“Ein huchelgais yw i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog lle y gall Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a'r staff ddewis gweithio neu gyfathrebu'n naturiol drwy ddefnyddio’r naill iaith swyddogol neu’r llall, neu’r ddwy iaith, lle caiff y defnydd o’r ddwy iaith ei annog a’i hwyluso yn frwd, a lle y caiff ein gwasanaethau dwyieithog rhagorol eu hehangu a’u gwella yn barhaus.”

 

6.3     I gefnogi'r broses o gyflwyno'r uchelgais hon, rydym wedi datblygu pum thema a fyddai'n ein galluogi i ddisgrifio ein hunain yn hyderus fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2021.  Caiff y themâu hyn a'r camau gweithredu penodol sy'n ofynnol i'w cefnogi eu disgrifio yn fanylach ar dudalennau 33 - 38 o'r Cynllun drafft.  Fodd bynnag, cânt eu darparu ar ffurf gryno isod:

·                Recriwtio - Wedi'u cefnogi gan ganllawiau i ymgeiswyr a rheolwyr recriwtio, rydym yn cynnig mabwysiadu dull lle bydd yr holl swyddi a hysbysebir gan Gomisiwn y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol cael o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau iaith Gymraeg (cwrteisi ieithyddol sylfaenol) pan gaiff rhywun ei benodi neu ymrwymiad i ennill y sgiliau hynny yn ystod y broses gynefino.  Byddwn yn datblygu dull mwy soffistigedig o bennu lefelau rhuglder sy'n ofynnol ar gyfer swyddi sy'n cael eu hysbysebu ac yn disgrifio'r gofynion ieithyddol yn yr hysbyseb swydd wrth inni symud i ffwrdd o'r ymagwedd ddeuaidd, sef "Cymraeg yn hanfodol" neu "Cymraeg yn ddymunol" nad yw wedi hwyluso'r broses o recriwtio gallu dwyieithog bob amser lle mae ei angen.  Mae'r trefniadau hyn wedi cael eu treialu ar gyfer nifer o gynlluniau recriwtio fel y gellir rhoi system ar waith erbyn haf 2018. Bydd newidiadau hefyd yn cael eu cefnogi gan adnoddau ar-lein ar gyfer ymgeiswyr posibl.

·                Sgiliau iaith - Mae'r Comisiwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu neu wella sgiliau iaith unigolion.  Mae ein Tîm Sgiliau Iaith mewnol bellach ar waith ac rydym yn gweld mwy o ddysgwyr, dysgwyr sy'n gwella a siaradwyr Cymraeg rhugl nag erioed o'r blaen.  Ein nod yw darparu llawer mwy o ffocws ar ddysgu Cymraeg ar gyfer y gweithle, pennu targedau ar gyfer dysgwyr a chydnabod cyflawniadau. Caiff cynnydd ar gyfer dysgwyr ei fapio a bydd yn bwydo yn fwy ffurfiol i ystyriaeth am allu dwyieithog o fewn meysydd gwasanaeth. Rhoddir llawer mwy o bwyslais ar ddarparu dysgu pwrpasol neu ddysgu penodol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a grwpiau penodol o staff y Comisiwn, fel y tîm Diogelwch, lle nad yw hyfforddiant ystafell ddosbarth yn ymarferol.  O ystyried yr ystod o ymyriadau arfaethedig, rydym yn gobeithio gweld ein dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg yn rhagweithiol o amgylch yr ystâd ac yn ein trafodion ffurfiol.

·                Cynllunio iaith - Wedi'u cyflwyno ar draws pob maes gwasanaeth yn ystod oes y Cynllun presennol, mae cynlluniau iaith wedi bod yn adnodd effeithiol sy'n galluogi penaethiaid gwasanaeth i ystyried eu gallu dwyieithog presennol yn well, yn ogystal ag unrhyw anghenion ychwanegol sy'n ofynnol o ran y gwasanaethau y maent yn eu darparu ac i gynnwys y rhain mewn cynlluniau recriwtio. Gan adeiladu ar y cynlluniau sydd ar waith, rydym yn cynnig system fwy cadarn o olrhain datblygiad sgiliau ein dysgwyr Cymraeg, eu cynnwys yn ein cylchoedd cynllunio gallu blynyddol ac adrodd ar gynnydd. Yn ystod oes y Cynllun hwn, ac yn sgil y cynigion ar gyfer recriwtio, datblygu sgiliau iaith a chynllunio iaith, byddwn yn adolygu ein Strategaeth Sgiliau Dwyieithog er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n addas at y diben.

·                Trafodion y Cynulliad - Mae cynnydd mawr wedi'i wneud i sicrhau y gall Aelodau'r Cynulliad gymryd rhan yn yr iaith o'u dewis drwy ddarparu ystod o ddeunyddiau dwyieithog sy'n hwyluso'r gwaith paratoi yn eu dewis iaith cyn iddynt gymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn neu fusnes y Pwyllgor.  Ein nod yw datblygu dealltwriaeth well o anghenion a dewisiadau'r Aelodau, gan gyfleu'r mewnbwn hwnnw i dimau pwyllgor integredig a datblygu hyfforddiant sgiliau iaith pwrpasol, yn ôl anghenion ac arddulliau dysgu, i ddarparu cymorth pellach ac ymgorffori'r syniad o weithio'n ddwyieithog.

·                Datblygu ethos dwyieithog y sefydliad - Er y cydnabyddir y cynnydd a wnaed i ddatblygu ethos dwyieithog y sefydliad, mae amrywiaeth o gamau gweithredu wedi'u nodi er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais erbyn 2021.  Er mwyn galluogi defnydd rhagweithiol o'r Gymraeg gan ymwelwyr a'r rhai sy'n ymgysylltu â ni ar-lein, byddwn yn ei gwneud yn haws iddynt adnabod siaradwyr Cymraeg, yn enwedig gyda'n gwasanaeth Diogelwch, fel y gall y Gymraeg gael ei defnyddio o'r cychwyn cyntaf. Mae fideo newydd ei gynhyrchu ar gael i bob aelod newydd o staff i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'n diwylliant, disgwyliadau, rôl cydgysylltwyr y Cynllun a sut i gael gafael ar gymorth. Rydym yn bwriadu gwella cyhoeddusrwydd mewn perthynas â'n llwyddiannau, cymryd rhan mewn mentrau sy'n gysylltiedig ag iaith a'u hyrwyddo yn allanol yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau o ran llwyfannau ymgysylltu digidol a thechnoleg iaith.

7.0     Camau nesaf

7.1     Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion ym mharagraff 2, ein bwriad fyddai gosod y Cynllun drafft gerbron y Cynulliad a'i fabwysiadu yn ffurfiol yn dilyn trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf.